GTB Gofal Hosbis a Lliniarol 19 Mai 2022, 14.30-15.30

 

CPG Hospice and Palliative Care, 19 May 2022, 14.30-15.30

 

Cofnodion

 

Profiadau gofal diwedd oes yn ystod y pandemig

 

Sesiwn dystiolaeth 4: Yr effaith ar iechyd a llesiant yn y gweithle

 

Yn bresennol

 

 

Mark Isherwood AS

Altaf Hussain AS

 

 

 

 

 

Rhun ap Iorwerth AS (wedi’i gynrychioli gan Heledd Roberts)

Mike Hedges AS (wedi’i gynrychioli gan Ryland Doyle)

 

 

 

 

 

Jane Dodds AS (wedi’i chynrychioli gan Rhys Taylor)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Lewis Clark, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith

 

Bethan Edwards, Marie Curie

 

 

 

 

 

Liv Warnes, Hospice UK

 

Eleri Cubbage (ymchwilydd MS)

 

Millie Jenkins, Cymdeithas MND

 

Liz Andrews, Hosbis y Ddinas

 

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru

 

Laura Hugman, Sefydliad Paul Sartori

 

Tracy Jones, Tŷ Hafan

 

Anna Tee, Cymorth Canser Macmillan

 

 

 

 

 

Emma Saysell, Gofal Hosbis Dewi Sant

 

Gethin Rhys, Cytûn

 

 

 

 

 

Janette Bourne, Cruse

 

Kim Jones, Hosbis y Cymoedd

 

 

 

 

 

Jane McGrath, Hosbis Sant Cyndeyrn

 

Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Gofal Diwedd Oes

 

 

 

 

 

Tom Davies, Cymorth Canser Macmillan

 

Yr Athro Jonathan Bisson, Canopi

 

 

 

 

 

Trystan Pritchard, Hosbis Dewi Sant

 

John Moss, Cymru Garedig

 

 

 

 

 

Emma Priest, Hosbis y Cymoedd

 

Lisa Griffiths, Cartref Gofal Pen-Y-Bont

 

 

 

 

 

Ymddiheuriadau

 

Grant Usmar, Hosbis y Cymoedd

Llyr Gruffydd AS

Peredur Owen Griffiths AS

Iain Mitchell, Hosbis Sant Cyndeyrn

Matthew Brindley, Hospice UK

 

 

Croeso gan y Cadeirydd, cofnodion o'r cyfarfod blaenorol a materion yn codi

 

Agorodd Mark Isherwood AS y cyfarfod a chroesawodd bawb. Cynigiwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir a gwir gan Gethin Rhys, ac eiliwyd hyn gan Lewis Clark.

 

Rhoddodd Mark Isherwood AS y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu ers y cyfarfod diwethaf. Ysgrifennodd y Grŵp Trawsbleidiol at Gadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gofyn i farwolaethau yn y cartref gael eu cynnwys yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad. Ymatebodd Eluned Morgan, gan gadarnhau y

 

 

 

 

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant, a Gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 2751549,

Elusen a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr Rhif 1014851 ac yn yr Alban Rhif SC041112. TAW Rhif 731 304476.


byddai’r Prif Weinidog yn codi’r mater yn ei ymateb i’r ymgynghoriad. Atebodd y Farwnes Hallett, Cadeirydd yr Ymchwiliad, hefyd gan gadarnhau y byddent yn ystyried ein cais ochr yn ochr â chais Hospice UK ac eraill.

 

Mae’r Farwnes Hallett bellach wedi cyhoeddi ei chylch gorchwyl a argymhellir sydd bellach gyda Phrif Weinidog y DU. Maent yn cynnwys cyfeiriad penodol at ofal yn y cartref, gan gynnwys gan ofalwyr di-dâl, yn yr adran ar reoli'r pandemig mewn lleoliadau penodol. Cadarnhaodd y Farwnes Hallett hefyd y bydd marwolaethau mewn cartrefi preifat yn cael eu cynnwys o dan archwiliad ehangach o ganlyniadau'r pandemig ar gyflyrau ac anghenion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Mae hyn yn newyddion da, ond bydd angen rhagor o waith cydweithredol i sicrhau bod marwolaethau yn y cartref yn cael sylw priodol pan fydd yr ymchwiliad cyhoeddus ar waith.

 

Yn ein cyfarfod diwethaf, fe wnaethom gytuno i wahodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu gynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sesiwn y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol i siarad am fynediad teuluoedd i seibiant. Nawr bod yr etholiadau lleol drosodd rwy'n awgrymu ein bod yn cynnwys hyn yn ein cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf.

 

Gwaith sy’n parhau a gwaith sy’n codi

 

Dyddiad

Cam i’w gymryd

Statws

17

Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Gadeirydd Ymchwiliad Covid 19 y DU, y Farwnes Hallett ac Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd,

Wedi’i gwblhau

Mawrth

am gynnwys marwolaethau gartref yn y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad

 

 

 

 

17

Gwahodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a/neu gynrychiolydd o Gymdeithas

Ar y gweill

Mawrth

Llywodraeth Leol Cymru i fynychu sesiwn y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol i siarad am fynediad teuluoedd i seibiant

 

 

 

 

 

 

Profiadau gofal diwedd oes yn ystod y pandemig: yr effaith ar iechyd a llesiant yn y gweithle

 

Profiadau staff hosbis

 

Fe wnaeth Mark groesawu Kim Jones ac Emma Priest o Hosbis y Cymoedd a Laura Hugman o Paul Sartori i siarad am ddarparu gofal hosbis yn y gymuned trwy gydol y pandemig a sut effeithiodd hyn arnyn nhw, eu teuluoedd a’u cydweithwyr.

 

Kim Jones, Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Clinigol yn Hosbis y Cymoedd:

 

-      Mae fy mhrofiad yn ymwneud â staff a sut y gwnaethom frwydro trwy Covid. Roedd rhan fawr o hynny yn ymwneud â’r ffaith bod llawer o fy nhîm yn eithaf ifanc a bod ganddynt blant ifanc. Roedd un o'r anawsterau a wynebwyd gennym yn ymwneud â gofal plant; ceisio cynnal ein gwasanaeth wrth ofalu am blant ar yr un pryd.

 

-      Mae fy ngŵr yn feddyg teulu ac mae gennyf i rôl glinigol felly roedd fy mhlentyn deg oed yn gallu mynd i ysgol hyb, ond i'r rhan fwyaf o'm tîm, nid oeddent yn gallu cael lle.

 

-      Nid oedd llawer o'r straen ynghylch Covid yn fy nhîm yn ymwneud cymaint â'r pryder o fod mewn cysylltiad â phobl â Covid, ond yn hytrach ymarferoldeb rheoli eich gwaith o ddydd i ddydd. Roedd pobl yn gweithio'n hwyr gyda'r nos ac roedd y rhai ohonom oedd yn gweithio gartref yn dymuno bod yn y gwaith ac roedd y rhai ohonom yn y gwaith yn dymuno bod gartref; doedd dim sefyllfa ddelfrydol yn y canol ac roedd yn heriol iawn.

 

-      I mi, yr euogrwydd o ollwng fy mab i ffwrdd a’i adael oedd waethaf pan oedd gweddill ei ddosbarth i gyd gartref, a’r euogrwydd o beidio â gallu gweithio fy oriau arferol, ac roeddwn i’n gweld hynny’n anodd iawn.

 

-      I'r tîm, fe achosodd ychydig o wrthdaro – roedd y rhai nad oedd ganddynt blant o’r farn y gallai aelodau eraill y tîm adael yn gynnar a gweithio gartref.

 

-      Roedd yn gyfnod anodd iawn ac rydym wedi dod drwyddi ond roedd yn heriol iawn ac rwy'n meddwl y bu teimladau o euogrwydd am fethu â diwallu anghenion ein plant a'n teuluoedd yn llawn a'r gwasanaethau roeddem yn eu darparu i bobl.

-      Roedd cynnal cyfarfodydd rhithwir rheolaidd a chefnogi ein gilydd yn bwysig iawn i ni, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod cacennau wedi chwarae rhan fawr.

 

Emma Priest, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Hosbis y Cymoedd:

 

-      Mae gen i dîm yn yr hosbis a thîm o nyrsys cofrestredig i fyny yn yr ysbyty a does dim byd wedi fy mharatoi mewn gwirionedd trwy gydol fy hyfforddiant a thros y blynyddoedd ar gyfer yr hyn a ddigwyddodd gyda Covid.

 

-      Trwy gydol ton gyntaf y pandemig, roedd morâl yn eithaf uchel ac er bod teimlad gwaelodol o ofn fe wnaethon ni i gyd dynnu at ein gilydd yn yr ysbyty. Fodd bynnag, wrth i'r ail don gyrraedd, daeth yn fwy o ymdrech ac aeth pobl yn fwy blinedig ac yn ofidus yn emosiynol.

 

-      Derbyniwyd fy nghleifion i'r ysbyty gyda symptomau ysgafn ac fe wnaethant ddirywio'n gyflym a marw'n sydyn iawn a chefais fy syfrdanu’n fawr gan hynny.

 

-      Ac roedd pobl yn gyflym iawn i ddweud ‘nyrs gofal lliniarol ydych chi, rydych chi'n delio â marwolaeth drwy'r amser’, ond nid oedd hyn yn ddim byd tebyg i’r hyn roeddwn i wedi paratoi ar ei gyfer neu wedi'i weld o'r blaen.

 

-      Nid oeddwn erioed wedi dychmygu fy hun yn dweud na allai teuluoedd ymweld â'u perthnasau ac efallai y byddai'n rhaid iddynt farw ar eu pen eu hunain, nid oeddwn erioed wedi dychmygu hynny.

 

-      Cefais glaf â dementia yn cael ei derbyn yn dilyn codwm, ac roedd hi'n feddygol yn ffit i'w rhyddhau ond ni allai gael ei rhyddhau, nid oedd yn deall beth oedd yn digwydd. Roedd wedi'i hynysu mewn ystafell sengl a chafodd ei heintio â Covid. Daliodd fy llaw ac edrych i fyw fy llygad a dweud wrthyf ei bod eisiau mynd adref ac ni allwn hwyluso hynny. Bydd hynny'n aros gyda mi am byth.

 

-      Dim ond rhan fach ohoni oedd hynny, roedd llawer o ddigwyddiadau eraill yr oedd ein tîm yn yr hosbis wedi ceisio anghofio amdano. Roedd y bobl hyn yn marw ar eu pen eu hunain ac fe wnaethom geisio anghofio llawer o hynny er mwyn ein llesiant a dweud y gwir.

 

-      Fe'i gwaethygwyd gan y ffaith ein bod yn mynd adref, yn gweithio ac yn mynd yn ôl adref ac ni allem fynd i unrhyw le arall gyda chydweithwyr i ddod i delerau â phethau ac mae hynny'n parhau nawr.

 

-      Mae'n anrhydedd mawr i mi weithio mewn hosbis a gallu dod o'r ward a thrafod gyda fy nhîm yma. Nid oedd pobl eraill yn gallu gwneud hynny felly roeddwn i fel ysgwydd i bwyso a chrio arni ar y ward. Ond nid yn unig mae'n rhaid i mi ddelio â'm straen emosiynol fy hun ond straen pobl eraill hefyd ac mae hynny wedi cael effaith barhaol ac rwy’n credu y bydd yn cymryd amser i ddatrys hynny.

 

-      Mae’n ymwneud â chefnogi pobl a dyna ni.

 

Laura Hugman, Rheolwr Tîm Clinigol, Hosbis yn y Cartref Paul Sartori:

 

-      Roedd gweithio trwy'r pandemig Covid fel sefyll ar y lan gyda hen ymbarél Peppa Pig dyllog, yn aros i'r tswnami daro.

 

-      Yna roedd fel bod ar daith wyllt heb wregys diogelwch na harnais diogelwch, am 2 flynedd!

 

-      Nid yw'n syndod na wirfoddolodd neb yn y tîm i ymuno â mi heddiw, mae fel petai nad oes neb eisiau siarad amdano mwyach.

 

-      Fe wnes i ofyn cwestiwn i bawb yn ein cyfarfod tîm ddydd Llun. Gofynnais am 2 air neu frawddeg i ddisgrifio sut roedden nhw'n teimlo am weithio yn ystod y pandemig.

 

-      Y geiriau a ddaeth i'r amlwg oedd ofnus, brawychus, dirdynnol, dychrynllyd, agored i niwed, dig, rhwystredig, drwgdeimlad, newid cyson, addasu'n gyson a phryder cyson.

 

-      Rwy’n cofio diwrnod ym mis Mawrth 2020 pan oedd nifer yr achosion yn cynyddu, roedd sefydliadau eraill yn lleol yn cau eu drysau a chefais fy ngadael yn teimlo’n unig iawn gyda thîm clinigol o 45 o bobl i ofalu amdanynt, a oedd yn gorfod darparu gofal diwedd oes hanfodol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Roedd pwysau ar Paul Sartori i barhau. Roedd diffyg cyfarpar diogelu personol yn broblem enfawr. Roedd y gymuned ein hangen ni. Teimlais faich enfawr o gyfrifoldeb yn anfon y tîm i'r rheng flaen heb fawr o amddiffyniad gan fod y cyflenwad o unrhyw gyfarpar diogelu personol oedd gennym yn dechrau dod i ben.

 

-      Fe wnaethom gyfarfod fel uwch dîm ac ymddiriedolwyr, a dywedais wrth yr ymddiriedolwyr naill ai bod angen i ni atal gwasanaethau neu fod angen i ni brynu cyfarpar diogelu personol i gadw'r tîm yn ddiogel.

 

-      Y diwrnod hwnnw talodd PSF £3,000 am 1,000 o fygydau. Fe wnaethom y penderfyniad i barhau. Gwnaethom alwad i'n cysylltiadau cymunedol. Cawsom ein syfrdanu gan gynigion o gyfarpar diogelu personol a oedd gan bobl at ddibenion eraill, e.e. milfeddygon, gweithwyr harddwch. Nid oedd byth yn gannoedd, dim ond ychydig o becynnau yma ac acw o wahanol ffynonellau. Rhoddodd mecanyddion orchuddion seddi ceir, gwnïwyd cannoedd o sgrybs ynghyd o ddillad gwely a roddwyd i'n siopau manwerthu gan ein byddin o wirfoddolwyr. Cafodd fisorau eu creu yn y coleg lleol. Roeddem yn gallu cynnig blwch cyfarpar diogelu personol i bob aelod o’r tîm yn gyflym, gyda phopeth oedd ei angen arnynt i deimlo ychydig yn fwy diogel.

 

-      Yna daeth y profion, gagio anghyfforddus bob wythnos, yna bob dydd, i barhau i ddarparu gofal gan boeni’n gyson am ddod â'r feirws adref i'n teuluoedd ein hunain. Cawsom ryddhad o'r brechiadau, ac roeddem yn optimistaidd y byddai hyn yn darparu rhywfaint o amddiffyniad. Roeddem yn genfigennus o gydweithwyr a oedd ar ffyrlo neu yr oedd yn ofynnol iddynt ynysu gan fod hyn wedi rhoi seibiant awdurdodedig iddynt o ddwyster y gwaith.

 

-      Fe wnaethom fethu ymweliadau ysbyty/cartrefi gofal ar gyfer ein hanwyliaid a marwolaethau anwyliaid. Fe gollon ni angladdau, genedigaethau wyrion ac wyresau. Roedd aelodau ein teulu yn gweithio ym maes gofal iechyd hefyd, gydag un yn profi naw marwolaeth mewn un dydd. Mae hyn yn rhy boenus iddynt hyd yn oed siarad amdano. Roeddem yn cael trafferth addysgu ein plant gartref, neu fe wnaethom eu hanfon i ysgolion hyb anhysbys, gydag ychydig o blant 'gweithwyr allweddol' eraill, nid gyda'u ffrindiau, i beidio â chael eu haddysgu ond i gael gofal yn yr ysgol. Roedd yr ymdeimlad o euogrwydd yn aruthrol a gwelsom fod hyn yn achosi pryder i’n plant. Nid oeddem yn gallu ateb eu cwestiynau. Doedd dim atebion. Doedd dim atebion i unrhyw un.

 

-      Ond fe wnaethom barhau, fis ar ôl mis, gan addasu i'r newid cyson newydd a oedd bellach yn arferol. Doedd neb yn meddwl y byddai'n para mor hir. Roeddem yn meddwl y byddai pobl yn gweithio gartref am ychydig wythnosau yn unig, yna tan ddiwedd yr haf ac yna tan y Nadolig, yna fe wnaethom roi'r gorau i ofyn, gan dderbyn y normal newydd a'r anhysbys.

 

-      Darparodd y cyfarpar diogelu personol rywfaint o sicrwydd ac amddiffyniad ond roedd yn wirioneddol ofnus i'n cleifion, yn enwedig yr henoed a phobl eiddil a'r rhai â dementia, a oedd yn ei chael yn anodd gwneud synnwyr o fywyd bob dydd. Roedden ni'n edrych fel pobl oedd yn cadw gwenyn. Ni allent ein clywed, ni allent weld ein gwenau tosturiol a gofalgar. Fe wnaethom addasu a bwrw ymlaen. Mae’r tîm yn dweud eu bod yn teimlo y gwnaed popeth yr oedd modd ei wneud. Roeddent yn teimlo'n ddefnyddiol, yn gweithio gyda phwrpas, yn falch o beidio â chael eu hadleoli i ysbyty maes neu ward anhysbys.

 

-      Mae'r tîm yn gweithio'n annibynnol, ddydd a nos, gan asesu a darparu gofal dydd a nos a seibiant. Cyn Covid, byddai'r tîm yn ymweld â'r swyddfa ac yn siarad â chydweithwyr am gleifion a theuluoedd yr oeddent wedi'u gweld. Byddent yn rhannu baich cyfrifoldeb a thristwch pob achos. Roedd Covid yn golygu nad oedd unrhyw un i rannu’r profiad â hwy. Roeddent yn mynd â’r cyfan adref gyda nhw ac roedd hyn yn cynyddu’r pwysau a’r straen. Roeddent yn dal yn ofnus ac nid oedd atebion o hyd.

 

-      Mae’r tîm cwnsela wedi cael datblygiad proffesiynol parhaus ar drawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma. Maent wedi dweud nad ydynt wedi gofalu am bobl yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan ddigwyddiad allanol o’r blaen. Mae trawma’n golygu cymhlethdod newydd o atgyfeiriadau, sydd unwaith eto’n rhoi mwy o straen ar y tîm.

 

-      Doedd dim cacennau i ddathlu penblwyddi, dim partïon gadael, dim cwrdd yn yr ystafell staff, dim gwyliau, dim rhannu egwyl coffi neu ginio, dim byd i edrych ymlaen ato, dim teulu neu ffrindiau eu hunain i ymweld. Fe wnaethom gynyddu nifer y galwadau ffôn at ein gilydd. Fe wnaethom ymgorffori capasiti yn ein gwasanaeth cwnsela ar gyfer ein haelodau staff, cynnig cynhyrchion therapi cyflenwol o bell, darparu sesiynau hyfforddi ar-lein a myfyrio gyda'n gilydd.

 

-      Y gwersi i'w datblygu yw bod staff wedi'u cleisio gan Covid, a bod lefelau goddefgarwch, gallu ac egni yn isel. Mae yna amharodrwydd i siarad am y peth ond mae angen cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydym wedi'i wneud. Mae angen i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn union fel yr oeddent cyn Covid. Fel tîm, rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni dros y 2 flynedd diwethaf. Mae pawb sydd wedi gweithio trwy Covid wedi bod ar eu taith eu hunain. Mae pawb wedi blino ar ôl gweithio ar lefel emosiynol uwch am 2 flynedd. Mae pobl yn dal i gael trafferth gofyn am help ond mae angen bod yn garedig ac adnabod arwyddion gorweithio. Os ydych chi mewn sefyllfa i ofyn i rywun sut ydyn nhw, cymerwch amser i wrando ar eu hateb.

 

-      Mae pobl yn ailasesu eu blaenoriaethau. Gall bod yn hyblyg gyda chontractau eich galluogi i ddal gafael ar staff sydd eisiau gadael a recriwtio aelodau tîm newydd. Mae cyfathrebu ac ymgynghori yn parhau i fod yn allweddol i bopeth. Os nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, byddant yn gadael. Mae angen iddynt wybod eich bod yn poeni.


Effaith ar staff cartrefi gofal

 

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru:

 

-      Roeddem yn dechrau o sylfaen fregus iawn ym maes iechyd a gofal pan ddechreuodd y pandemig. Mae rôl gweithiwr gofal yn llawn straen, yn feichus ac roedd bob amser yn cael ei thanbrisio, hyd yn oed cyn Covid, felly pan ddaeth Covid roedd hynny'n anoddach fyth.

 

-      Roedd llwyth gwaith ychwanegol oherwydd Covid, roedd yn rhaid i bobl ddefnyddio gweithdrefnau llawer mwy dwfn ar gyfer glanhau a rheoli heintiau a phan ddechreuodd cartrefi gofal ganiatáu ymweliadau eto, roedd hynny'n waith ychwanegol a oedd yn syrthio ar nifer staff a oedd yn lleihau'n barhaus oherwydd bod angen iddynt hunanynysu neu fod ganddynt salwch cysylltiedig â straen.

 

-      Roedd llawer o bobl yn gweithio nes eu bod yn gorflino’n llwyr ac yn gweithio oriau andros o hir, ac nid oeddent yn cymryd unrhyw wyliau yn ystod cyfnodau brig Covid.

 

-      Roedd cymaint o hunanaberth; nid oedd yn anarferol o gwbl i weithwyr gofal symud i'r cartref gofal i ddiogelu eu teuluoedd a'r preswylwyr yr oeddent yn gofalu amdanynt.

 

-      Roedd problemau perthynas hefyd, gan gynnwys cam-drin domestig; roedd gan un o'n gweithwyr gofal ŵr a oedd am iddi roi'r gorau i weithio a dechreuodd fynd yn eithaf treisgar pan wrthododd.

 

-      Roedd gennym hefyd bobl a oedd yn gweithio’n rhan-amser a gynyddodd eu horiau i gefnogi’r gweithlu ond yn y mis canlynol hawliodd Credyd Cynhwysol y gordaliad ac nid oeddent yn gallu fforddio prynu bwyd.

 

-      Roedd yn beryglus. Roedd fel bod mewn rhyfel. Roedd pethau mor wael â hynny ar adegau. Roedd gan un o'n haelodau nyrs a fu farw o Covid y gwnaeth hi ei ddal mewn cartref.

 

-      Roedd yna adegau pan oedd yn rhaid i ofalwyr ymdopi â rhywfaint o elyniaeth gan aelodau o'r teulu nad oeddent yn deall pam nad oeddent yn cael ymweld.

 

-      Dywedodd un o’n haelodau bod pobl yn ymosod â fframiau Zimmer a ffyn cerdded ar staff yn rheolaidd wrth geisio cynnal profion arferol.

 

-      Roedd yn sefyllfa estron ac anghyfforddus iawn i bobl sy’n gweithio fel gofalwyr.

 

-      Un o'r pethau gwaethaf oedd gorfod gwneud i bobl ynysu yn eu hystafelloedd a'u cadw ar wahân; sut ydych chi'n gwneud hynny gyda rhywun â dementia sydd wedi arfer crwydro?

 

-      Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu haberthu i'r GIG oherwydd nad oedd cyfarpar diogelu personol; pan oedd pobl yn curo dwylo ar gyfer arwyr y GIG, ychydig iawn o bobl a soniodd am ofal cymdeithasol.

 

-      Byddai llawer ohonynt sydd â chardiau brys yn mynd i slotiau blaenoriaeth siopa a byddent yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd na fyddai'r siop yn eu hadnabod; nid nyrs ydych chi.

 

-      Weithiau roedd diffyg cymorth o fewn y cartref gofal. Yn aml, byddai’r rheolwyr i ffwrdd yn sâl eu hunain felly weithiau byddai gennych weithwyr gofal ar isafswm cyflog yn cymryd yr holl gyfrifoldeb hwn ac yn gorfod gwneud penderfyniadau ynghylch diwedd oes dros y ffôn pan nad oedd meddygon teulu yn dod i mewn.

 

-      Unwaith y bydd Covid yn cyrraedd cartref, mae'n amhosibl ei atal. Collodd un o’n haelodau cartref gofal 21 o breswylwyr mewn pythefnos.

 

-      Nid sefydliadau yw cartrefi gofal, maent yn deuluoedd estynedig; mae’r preswylwyr a’r gofalwyr yn ffurfio perthnasoedd, felly pan welwch eich cartref cyfan yn chwalu o flaen eich llygaid mae’n drawmatig iawn. Yn anffodus, fe wnaeth un o'n haelodau a oedd yn rhedeg cartref gofal yng ngogledd Cymru gyflawni hunanladdiad oherwydd ni allai ddioddef gweld hyn yn digwydd i'r bobl yr oedd mor hoff ohonynt.

 

-      Mae yna waddol parhaus gan Covid, mae pobl i bob pwrpas yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, maen nhw wedi blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol, rydyn ni'n gweld niferoedd cynyddol o bobl yn gofyn am gael newid eu horiau a newid i weithio’n rhan-amser tra bod llawer yn dewis gadael y sector.

 

-      Mae cymdeithas fwy neu lai yn dod yn ôl i normal, a gall staff mewn cartrefi gofal weld hynny, ond maen nhw'n dal i orfod aberthu, maen nhw'n dal i orfod gwneud y profion, maen nhw'n dal i orfod gwisgo cyfarpar diogelu personol, maen nhw'n dal i orfod cadw Covid allan o'r cartrefi.

 

-      Mae arna i ofn ein bod eisoes yn dechrau anghofio'r aberth y mae pobl wedi'i wneud ac mae angen i ni atgoffa ein hunain o hyd o faint o arwyr oeddent, a gwneud yn siŵr nad ydym yn rhoi bai.

 

-      Rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymrwymiad cynyddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddangos i'r cyflog byw, ac i rai o'r gwasanaethau lles a chwnsela a sefydlwyd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

-      Mae angen i ni gofio eu bod yr un mor bwysig ym maes gofal cymdeithasol ag y maent ym maes iechyd.

 

Lisa Griffiths, Pennaeth Gwasanaethau ac Unigolyn Cyfrifol, Cartref Gofal Pen-Y-Bont, Abertyleri:

 

-      Mae byw ac anadlu Covid am y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith aruthrol ar fy staff.

 

-      Bod yn Unigolyn Cyfrifol yn y cartref yn ystod y pandemig oedd y peth anoddaf i mi ei brofi erioed ac mae wedi fy nychryn am oes, ond mae hefyd wedi codi ofn ar bobl eraill.

 

-      Pan fydd pobl yn dod atoch i gael yr holl atebion ac nad oes gennych unrhyw atebion i'w rhoi iddynt, mae'n anodd iawn.

 

-      Roedd pobl yn dod i mewn gyda cholur yn rhedeg i lawr eu hwyneb oherwydd eu bod yn crio cyn iddynt hyd yn oed gamu trwy'r drws gan eu bod yn gwybod beth oedd o'u blaenau.

 

-      Pan fyddwch chi mewn cartref gofal maen nhw'n dod yn deulu estynedig i chi, felly bob dydd pan fyddwch chi'n colli pobl, byddwch chi'n colli aelodau o'r teulu.

 

-      Y peth mwyaf i mi oedd bod fy chwaer yng nghyfraith, a oedd yn gweithio i mi ar y pryd yn y cartref, wedi cael Covid ac yn anffodus wedi marw, felly ar ben popeth roedd yn rhaid i mi geisio cadw ysbryd y staff i fyny, gan roi cymaint o gefnogaeth â phosibl iddynt a bod yno bob dydd, yn gorfod wynebu colli ein preswylwyr yn ogystal ag aelod o staff.

 

-      Fe wnes i ddal Covid fy hun ac roeddwn i’n teimlo’n euog na allwn i fod yno i'w cyfeirio a bod yn ysgwydd i grio arni. Rwy'n cofio bod yn fy ystafell wely am 14 diwrnod a wnes i ddim cysgu yn gweithio bore tan nos ar y ffôn yn cefnogi fy staff.

 

-      Ar ôl i'r cartref ddal Covid roeddech chi'n cael eich gwylio, roedd yna lawer o bobl yn eich ffonio i ofyn ble rydych chi wedi bod, beth rydych chi wedi bod yn ei wneud, roedd fel pe bai'n rhaid i chi fynd i'r carchar am ddal Covid, roedd yn brofiad ofnadwy i bawb.

-      Rwy'n credu y bydd gan lawer o bobl anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol pan fyddant yn meddwl am yr hyn y maent wedi'i golli.

 

Cyd-destun ehangach a chymorth i staff iechyd a gofal cymdeithasol:

 

Yr Athro Jonathan Bisson, Prifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr gwasanaeth cymorth iechyd meddwl Canopi ar gyfer staff gofal cymdeithasol a’r GIG:

 

-      Enw’r sefydliad a ragflaenodd Canopi oedd Help for Health Professionals Wales a sefydlwyd yn 2012 i gydnabod bod llawer o feddygon yn teimlo’n anghyfforddus ynghylch cael mynediad at gymorth iechyd meddwl drwy wasanaethau safonol y GIG.

 

-      Yn 2020, gyda dyfodiad y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn a chytunodd i ehangu’r gwasanaeth hwn i gynnwys holl weithlu’r GIG felly ehangodd y gwasanaeth yn gyflym yn ystod 2020-21.

 

-      Yn ystod wyth mlynedd ei fodolaeth hyd at 2020 gwelodd HHP tua 600 o bobl, ond yn y flwyddyn ganlynol yn unig, fel gwasanaeth estynedig yn ystod y pandemig, gwelodd 750 o bobl a oedd yn gweithio yn y GIG.

 

-      Mae Canopi yn wasanaeth hunan-atgyfeirio lle bydd yr unigolyn yn cael sgwrs am tua hanner awr gydag ymarferwr hyfforddedig, meddyg teulu fel arfer, a fydd yn helpu i nodi beth yw ei anghenion. Yna caiff ei gyfeirio at lefel briodol o gymorth, sy’n amrywio o ddeunyddiau hunangymorth ar wefannau, fel gwasanaeth cymorth Silver Cloud Llywodraeth Cymru, i gymorth anffurfiol gan gydweithwyr yn y GIG sydd wedi cael eu hyfforddi. I eraill, rydym yn cynnig hyd at wyth sesiwn o therapi ymddygiad gwybyddol gyda therapydd achrededig.

 

-      Mae ychydig dros 500 o bobl wedi cael therapi wyneb yn wyneb, yn aml dros Zoom, yn ystod y pandemig.

 

-      Ers 1 Ebrill eleni rydym wedi cael ein comisiynu i gefnogi staff gofal cymdeithasol yn ogystal â staff y GIG.

 

-      Mae Canopi yn cael tua 30-35 o hunanatgyfeiriadau yr wythnos, a thua chwarter ohonynt gan staff gofal cymdeithasol, ac rydym yn disgwyl i hyn gynyddu dros amser.

 

-      Rydym yn un gwasanaeth ymhlith llawer o wasanaethau eraill a ddarperir ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gan ddarparwyr unigol a mynediad at wasanaethau GIG ehangach trwy eich meddyg teulu lleol.

 

-      Rwy'n synnu na welsom fwy o bobl yn dangos symptomau anhwylder straen wedi trawma sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â'u profiadau yn ystod y pandemig. Rhywbeth mwy cyffredin yw lle mae'r pandemig wedi effeithio ar unigolyn sydd â symptomau gorbryder ac iselder, ond mae'n rhaid i chi gofio ein bod yn gweithio gyda phawb yn y GIG a gofal cymdeithasol.

-      Ond i weithwyr rheng flaen mae anhwylder straen wedi trawma wedi bod yn fwy amlwg.

 

-      Mae ffactorau eraill yn bwysig iawn; maent yn cynnwys straen ychwanegol fel materion domestig, colli swydd ac incwm, gofal plant ac addysg yn ystod y pandemig.

 

Trafodaeth agored a chwestiynau 

 

Gofynnodd Kim Jones o Hosbis y Cymoedd a oedd gwasanaeth Canopi yn hygyrch i staff hosbis a chartrefi gofal annibynnol? Cadarnhaodd Jonathan Bisson ei fod ar gael iddynt ac y byddent yn cael yr un gefnogaeth â staff y GIG a gofal cymdeithasol.

 

Diolchodd Liz Andrews i bawb am fod mor agored a diffuant wrth rannu eu profiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bod llawer ohonynt yn cyd-fynd â’i phrofiad ei hun.

 

Adleisiodd Idris Baker eiriau Liz wrth ddiolch i’r bobl a siaradodd ac i’r grŵp, gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi fod tystiolaeth gymhellol yn cael ei chlywed yn ei rhinwedd ei hun a dysgu ohoni.

 

Diolchodd Altaf Hussain i bawb am rannu’r hyn a oedd yn aml yn straeon torcalonnus am heriau bywyd go iawn i nyrsys, staff cartrefi gofal a hosbisau. Gofynnodd a oedd pobl o’r farn bod moeseg a hawliau dynol cleifion a staff yn cael eu cynnal trwy gydol y pandemig a sut roedd brechu cleifion yn effeithio ar y profiadau y mae pobl wedi'u rhannu?

 

Dywedodd Kim Jones ei bod yn anodd dweud bod hawliau dynol pobl yn cael eu cynnal, oherwydd dylai pobl fod wedi cael yr hawl i weld eu teulu a chawsant eu hatal:

 

Mae’n anodd dweud bod hawliau dynol pobl yn cael eu cynnal, oherwydd dylai pobl fod wedi cael yr hawl i weld eu teulu ac fe wnaethon ni eu hatal. Buom yn gofalu am rai o’n pobl fwyaf oedrannus a mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas pan fu amser yn aml yn brin ac fe wnaethom gyfyngu ar yr opsiynau oedd ganddynt i weld eu teulu, felly ar lefel bersonol dydw i ddim mor siŵr bod eu Hawliau Dynol yn cael eu cynnal, chawson nhw ddim yr opsiwn hwnnw, nid oedd ganddynt ddewis

 

Dywedodd Kim Jones fod pethau’n dal i fod fwy neu lai’r un peth ar ôl i bobl gael eu brechu, gydag ymwelwyr yn peidio â chael eu caniatáu o hyd ac mai dim ond nawr mae pobl yn cael ymweld:

 

Ni fyddwn byth yn cael yr amser a gollwyd yn ôl, ac i gleifion sydd bellach yn gallu gweld eu teuluoedd ond sy’n dioddef o nam gwybyddol, efallai na fyddant yn gwybod pwy ydyn nhw mwyach

 

Materion a diweddariadau parhaus

 

Rhoddodd Dr Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes, y wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad ansawdd gofal diwedd oes, y rhaglen genedlaethol a’r adolygiad ariannu:

 

-      Yn dal i gael adborth gan hosbisau ac eraill ar Ddatganiad Ansawdd drafft ar ofal diwedd oes sydd ar gam eithaf datblygedig. Bu oedi oherwydd yr angen am eglurhad ar bwrpas y datganiad ansawdd. Gobeithio cael drafft terfynol i’r bwrdd gofal diwedd oes yn yr ychydig wythnosau nesaf ac efallai y bydd angen mynd drwy rai camau mewnol Llywodraeth Cymru. Y nod yw anfon drafft at y Gweinidog a chyhoeddi rywbryd yn ystod yr haf hwn.

 

-      Bydd y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yn dechrau ym mis Gorffennaf gan ddisodli'r Bwrdd diwedd oes presennol. Mae’r rhaglen waith ar gyfer y rhaglen genedlaethol wrthi’n cael ei datblygu ac mae grŵp llywio yn gweithio ar hyn.

 

-      Cwblhawyd yr adolygiad cyllid cam un ar gyfer hosbisau gwirfoddol y llynedd dan arweiniad Veronica Snow sydd wedi cael effaith aruthrol ar ddatblygiad gofal lliniarol a diwedd oes yng

Nghymru dros nifer o flynyddoedd. Yn sgil hynny, mae adolygiad cam dau yn cael ei gynnal sydd â chylch gwaith uchelgeisiol, sy’n cwmpasu hosbisau ac arbenigwyr lliniarol y GIG yn ogystal ag edrych ar y modelau gofal a’u cyllid ar draws sbectrwm cyfan gofal diwedd oes. Yr uchelgais yw adrodd yn ôl erbyn mis Ionawr 2023 a bydd yn cynnig argymhellion ar fodelau a chyllid, a gall gynnwys argymhellion ar gyfer gwaith pellach i fynd i’r afael â’r cwestiynau anoddach. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Trawsbleidiol am yr adolygiad cyn y dyddiad cau ym mis Ionawr.

 

Gofynnodd Altaf Hussain a yw cleifion a’u teuluoedd wedi bod yn rhan o’u gofal ac wrth ddatblygu’r polisïau drafft? Cadarnhaodd Idris Baker fod cyfathrebu â chlaf a’i deulu wrth wraidd gofal unigol, ond mae lle i wella hyn wrth ddatblygu polisïau a gwasanaethau.

 

Gofynnodd Lewis Clarke faint o waith ymgysylltu fydd yn rhan o'r adolygiad cyllid cam dau o ystyried bod cryn dipyn o ymgysylltu yn y broses cam un.

 

Dywedodd Idris y bydd rhywfaint o waith ymgysylltu, ond mae angen iddynt gael y cydbwysedd yn iawn oherwydd yr amserlen dynn. Nid ydynt am ail-wneud yr holl waith ymgysylltu sydd eisoes wedi'i wneud ar gyfer cam un a'r adroddiad gwerthuso, ond maent yn cynllunio gwaith ymgysylltu dethol ag ystod eang o wasanaethau, nid gofal lliniarol arbenigol yn unig. Dywedodd eu bod yn hapus iawn i glywed gan unrhyw un.

 

Darparodd Liv Warnes o Hospice UK ddiweddariad ar alwad y Grŵp Trawsbleidiol am dystiolaeth ysgrifenedig ar brofiadau gofal diwedd oes yn ystod y pandemig ar ran Matthew Brindley.

 

Unrhyw fater arall

 

Rhoddodd Bethan Edwards o Marie Curie Cymru y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am ddeiseb Marie Curie a’r Gymdeithas MND gyda Phwyllgor Deisebau’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu llinell amser, cyllid a staff i gyflawni cynllun Diwedd Oes newydd gan ystyried bod yr un presennol wedi dod i ben ym mis Mawrth. Casglodd y ddeiseb dros 2,200 o lofnodion a chafodd ei chyflwyno’n ffurfiol i’r Pwyllgor Deisebau ar 25 Ebrill ac maen nhw wedi ei hanfon at y Gweinidog Iechyd i'w thrafod. Y tri argymhelliad allweddol yn y ddeiseb yw clustnodi gwariant ar gyfer y rhaglen gofal diwedd oes am y tair blynedd nesaf, gwneud yn siŵr bod digon o bobl a chapasiti yn y Llywodraeth yn gweithio ar y rhaglen o ystyried bod gwahaniaeth mawr mewn capasiti o ran gofal diwedd oes a chanser, ac yn olaf cael cynllun gweithredu ar gyfer y datganiad ansawdd.

 

Diolchodd Mark Isherwood AS i bawb am ymuno â chyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol, gan ddiolch yn arbennig i’r rhai a roddodd dystiolaeth rymus a phersonol o’u profiadau yn ystod y pandemig. Atgoffodd bawb am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar 7 Gorffennaf ac roedd yn edrych ymlaen at weld pobl yno.

 

Dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf:

 

 

7 Gorffennaf, 12.00-13.30 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)